Sesiwn 1:
Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch chi’n gallu:
- Egluro deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y sector
- Gallu nodi achosion marwolaethau a damweiniau
- Rhestru peryglon ar ffermydd
Beth yw’r mathau o ddamweiniau ac achosion marwolaethau?
Marwolaethau ar ffermydd
Achosion mwyaf cyffredin marwolaethau yw:-
- cerbydau;
- cael eich taro gan wrthrych sy’n symud neu’n cwympo e.e. byrnau, coed;
- cwympo o uchder, tagu neu foddi;
- cysylltiad â pheiriannau;
- anaf gan anifail;
- cael eich caethiwo gan rywbeth sy’n cwympo neu’n dymchwel;
- cysylltiad â thrydan.
Anafiadau ar ffermydd
Achosion mwyaf cyffredin anafiadau sydd ddim yn achosi marwolaeth yw:-
- trin, codi neu gario;
- llithro, baglu neu gwympo ar yr un lefel;
- cael eich taro gan wrthrych sy’n symud;
- cwympo o uchder;
- cysylltiad â pheiriannau;
- cael anaf gan anifail.
Trafod!
Faint o beryglon welsoch chi?
Crynodeb
- Mae llawer o beryglon ym myd amaeth.
- Mae llawer o bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd mewn blwyddyn ar ffermydd.
- Mae hyfforddiant a phrofiad yn gallu helpu i leihau’r peryglon