Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yw sylfaen cyfreithiau iechyd a diogelwch yn y DU.
Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn un bwysig ac mae’n cynnwys dyletswyddau cyfreithiol:
Pwrpas y ddeddf yw rhoi fframwaith cyfreithiol i annog safonau uchel o ran iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Ei nodau yw:
Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gweithiwr yn ddiogel, mae angen i’r cyflogwr wneud Asesiadau Risg ar bob gweithgaredd.
Mae asesiadau risg yn nodi’r peryglon a allai achosi risg i iechyd a diogelwch gweithwyr neu weithwyr hunangyflogedig. Mae peryglon yn cael eu dosbarthu’n risgiau uchel, canolig neu isel, a rhaid rhoi mesurau rheoli, neu ragofalon i leihau’r risgiau yn eu lle.
Gall y risg fod i’r rhai sy’n gweithio ar y fferm; y rhai sy’n ymweld, gan gynnwys contractwyr, masnachwyr hunangyflogedig eraill neu werthwyr cwmni; cymdogion ac aelodau eraill o’r cyhoedd.
Asesu risg yw prif ofynion y rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae asesu risg yn ofyniad cyfreithiol.