Er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel, mae angen bod yn ymwybodol o’r gweithgareddau sy’n digwydd ar y fferm a nodi peryglon a allai achosi risg i iechyd a diogelwch. Gall y risg fod i’r rhai sy’n gweithio ar y fferm; i’r rhai sy’n ymweld, gan gynnwys contractwyr, masnachwyr hunangyflogedig eraill neu werthwyr cwmni; i gymdogion ac aelodau eraill o’r cyhoedd.
Os oes plant yn byw ar y fferm neu’n ymweld â hi’n rheolaidd, cofiwch eu cynnwys nhw mewn unrhyw asesiadau risg rydych chi’n eu gwneud. Mae peryglon a allai gael eu hasesu fel risg isel i oedolion yn gallu bod yn rhai risg uchel i blant a phobl ifanc. Mae’r plant mwyaf agored i niwed rhwng blwydd a phum mlwydd oed a rhwng 11 a 15 mlwydd oed.
Gall fod ffactor risg i rai gweithgareddau, ond gallai maint y risg fod mor fach fel nad oes angen rhoi mesurau rheoli mawr yn eu lle. Efallai fod i weithgareddau eraill ffactor risg mwy a bod angen rhoi mesurau rheoli diogelwch mwy manwl yn eu lle.
Beth yw PERYGL?
Beth yw RISG?
Asesu risg yw’r broses o edrych ar eich gweithgareddau busnes a nodi unrhyw beryglon. Yna rhaid gosod unrhyw fesurau yn eu lle a fyddai’n cael gwared ar y risg neu’n lleihau pa mor ddifrifol yw’r risg.
Dyma ddiwrnod nodweddiadol ym mywyd ffermwr llaeth.
Nodwch yr holl beryglon posibl ac eglurwch sut gallen nhw gael eu lleihau.
Mae Shan Jones yn codi am 5am ac yn gwneud paned o de iddi ei hun. Mae hi’n mynd allan ac yn nôl y gwartheg gyda’i chi defaid o’r cae. Mae hi’n sylwi bod buwch newydd fwrw llo. Mae hi’n godro’r gwartheg ac yn ystod y godro mae’n rhaid iddi drin anner/treisiad ifanc â thiwb i mewn i’r gadair ac mae hi’n rhoi chwistrelliad i fuwch arall oherwydd ei bod hi’n gloff. Mae hi’n defnyddio chwistrell ïodin i atal mastitis ac mae hi’n gosod y bath traed formalin i’r gwartheg gerdded drwyddo ar ôl cael eu godro. Cyn mynd i frecwast mae hi’n rhoi buwch sy’n gofyn tarw i mewn gyda’r tarw stoc yn ei loc.
Ar ôl brecwast mae’n rhaid iddi drin y lloi ifanc am y darwden (ringworm) a hefyd mae’n rhaid iddi symud 20 o fyrnau gwellt drwy rodfa gul i sied y lloi. Mae hi’n penderfynu carthu’r llociau â fforc llaw ac mae hi’n rhoi calch ar y llawr cyn rhoi’r gwellt dros y lloc. Mae hi’n sylwi bod y gwellt yn llawn llwch a llwydni.
Gwaith y prynhawn yw gwasgaru gwrtaith gan ei bod hi newydd fwrw glaw. Mae ambell lethr ar y fferm ac mae angen gwasanaeth ar y tractor. Ar ôl defnyddio’r llwythwr pen blaen i godi’r bagiau 600kg i’r cynhwysydd, mae hi’n bwrw ati i wneud y dasg.
Ar ôl te mae hi’n dechrau godro eto ac ar ôl swper mae hi’n gorffen drwy gerdded o gwmpas y gwartheg i weld a oes unrhyw rai’n gofyn tarw. Wrth wneud hyn mae hi’n chwistrellu chwynladdwr dros y caeau i ladd y chwyn. Mae’r diwrnod yn dod i ben gyda bath twym a phaned o siocled poeth.