Sesiwn 5:
Gwneud asesiadau risg
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch chi’n gallu:
- Dweud beth yw’r peryglon ar 4 math o fferm: Llaeth, Eidion, Defaid a Thir Âr
- Nodi lefel risg pob perygl
- Nodi’r 5 cam i asesu risg
- Gwneud asesiad risg
Edrych eto ar sut i wneud Asesiad Risg
Meddyliwch am beth allai achosi niwed i bobl yn eich gweithle a phenderfynwch a ydych chi’n cymryd camau rhesymol i atal neu i reoli’r niwed hwnnw.
- Meddyliwch am y peryglon - edrychwch o gwmpas eich gweithle a meddyliwch am beth a allai achosi niwed (peryglon yw’r enw ar y rhain). Beth sydd am y gweithgareddau, y prosesau neu’r sylweddau sy’n cael eu defnyddio a allai achosi anaf neu niwed i chi, i weithiwr neu i aelod o’r cyhoedd/ymwelydd?
- Edrychwch ar bwy allai gael ei niweidio a sut - ar gyfer pob perygl, meddyliwch sut gallai gweithwyr neu eraill fel contractwyr, ymwelwyr neu aelodau o’r cyhoedd gael eu niweidio – bydd hyn yn eich helpu i nodi’r ffordd orau o reoli’r risg. Gofynnwch i’ch gweithwyr beth yw’r peryglon yn eu barn nhw.
- Penderfynwch sut byddwch chi’n rheoli’r risgiau - Penderfynwch pa mor debygol yw hi y bydd niwed yn digwydd a beth i’w wneud am y peth. Does dim disgwyl i chi gael gwared ar bob risg, ond rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r prif rai a beth dylech chi ei wneud i’w rheoli nhw’n gyfrifol.
Edrychwch ar y rheoliadau sydd gennych chi yn eu lle yn barod a gofynnwch i chi’ch hun:
- Allwch chi gael gwared ar y perygl yn llwyr?
- Os na allwch chi gael gwared ar berygl, sut gallwch chi reoli’r risg fel bod niwed yn annhebygol?
Rheoli risgiau ac asesu risg yn y gwaith
Mae’r ffilmiau canlynol yn dangos y prif risgiau ar y 4 math o fferm.
Chwaraewch y ffilm a nodwch y peryglon.
Rhowch lefel y risg i’r perygl.
Gwnewch asesiad risg ar gyfer pob perygl.
Crynodeb
Mae’r sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr wneud asesiadau risg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig â Gwartheg, Peiriannau Fferm a gwneud tasgau fferm yw’r cam cyntaf i leihau pa mor aml mae damweiniau’n digwydd.
Mae hyn yn cadw pawb yn ddiogel ar fferm.