Sesiwn 7:
Y Cerbyd Addas i bob math o Dir (ATV)
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch chi’n gallu:
- Deall y materion diogelwch sy’n berthnasol i ATVs
- Deall y cyfyngiadau oedran a’r cyfreithiau sy’n ymwneud â defnyddio ATVs
- Dewis y cyfarpar diogelu personol (PPEs) i’w gwisgo wrth yrru ATV
Cyflwyniad
Mae beiciau cwad a Cherbydau Addas i bob math o Dir (ATVs) yn dod yn rhan o ffermio bob dydd ond, fel unrhyw beiriant arall, nid y beic cwad sy’n beryglus, ond y ffordd mae’n cael ei drin!
Felly, cyn i chi neidio ar eich ATV a’i danio, cymerwch amser i ddod i adnabod y cerbyd, dewch i wybod beth yw eich terfynau chi a beth yw’r peryglon.
Does dim un achos i bob damwain ATV.
Mae llawer o ddigwyddiadau’n ymwneud â gyrwyr neu berson arall esgeulus neu ddiofal.
Mae achosion damweiniau ATV yn cynnwys gyrru tra’n feddw, gyrru’n ddiofal, tir anaddas, cerbyd yn troi drosodd; mae’r rhestr yn hir iawn.
Hefyd mae rhesymau llai amlwg yn achosi’r damweiniau hyn, fel cynnal a chadw gwael neu gario gormod o bwysau ar yr ATV. Mae ATVs sy’n cael eu defnyddio ym maes amaethyddiaeth wedi’u dylunio i gario’r un sy’n gyrru, a dim ond y person hwnnw.
Peryglon ATVs
Mae ATVs wedi’u dylunio i ymdopi ag amrywiaeth eang o fathau o dir, gan gynnwys llethrau serth, ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio’r tu allan i’r ffiniau diogel hyn, maen nhw’n gallu mynd yn ansefydlog cyn pen dim. Y prif achosion anafiadau difrifol neu angheuol sy’n gysylltiedig ag ATVs yw:
- cael eich taflu oddi ar yr ATV wrth iddo droi drosodd neu ar ôl colli rheolaeth arno;
- taro yn erbyn strwythurau, coed, cerbydau eraill ac ati;
- cael eich caethiwo/mygu o dan beiriant sydd wedi troi drosodd;
- cerddwyr yn cael eu taro neu eu rhedeg drosodd gan ATVs.
Rheolau Gweithredu ATVs
Mae’n anghyfreithlon i ATVs gael eu gyrru ar gyfer gweithio gan blant o dan 13 oed. Hefyd mae’n anghyfreithlon i chi gario plentyn fel teithiwr.
Bydd unrhyw bwysau sy’n cael ei ychwanegu uwchben y craidd disgyrchiant (centre of gravity) yn gwneud i’r ATV fod yn llai sefydlog, e.e. cynhwysydd/peiriant cyflenwi wedi cael ei osod uwchben y rac cefn.
Trafodwch y peryglon yn rheolaidd â’r tîm cyfan, a hyfforddwch bawb mewn dulliau gweithio diogel, a’r gweithdrefnau argyfwng.
Sicrhewch fod pawb yn cario ffôn symudol gyda nhw a rhowch y wybodaeth argyfwng a’r rhifau argyfwng perthnasol ynddyn nhw. Cadwch y ffôn symudol gyda chi.
Rhaid i blant o dan 16 oed beidio â gyrru, gweithredu neu helpu i weithredu ATVs.
Rhestr wirio
Tanwydd - Os nad yw’r ATV wedi cael ei ddefnyddio ers sawl mis, dylech chi ddraenio’r tanc a’i ail-lenwi â thanwydd ffres.
Teiars - Yn ogystal â sicrhau bod eich teiars ar y pwysedd cywir i’r tir a bod gwadn da (tread) ganddyn nhw, mae gwirio am hoelion yn y waliau ochr yn syniad da bob amser.
Breciau - Efallai fod hyn yn amlwg, ond mae gallu stopio eich ATV yn awgrym diogelwch da. Ddylai’r padiau breciau byth fod metel wrth fetel. Gwiriwch faint mae’r pad wedi treulio/gwisgo gan fod angen 1/8 modfedd o drwch o leiaf ar gyfer diwrnod ysgafn o yrru.
Olew - Gwiriwch lefel yr olew cyn gyrru bob tro. Bydd edrych ar yr hylif ar y drochbren (dipstick) yn gallu dweud wrthoch chi faint o olew sydd gennych chi ac a yw’n addas i’w ddefnyddio ai peidio.
Llywio - Cofiwch edrych dros y cysylltiadau llywio â’r olwynion. Mae rodiau clymu’n gallu treulio ac os bydd un yn torri’n rhydd, gallech chi gael eich gadael ag un olwyn yn penderfynu eich ffawd.
Carnau rheoli - Mae’n amlwg yn hanfodol eich bod yn gallu rheoli eich ATV, felly os yw’r carnau (grips) yn cwympo’n ddarnau, mynnwch rai newydd.
Offer Cywir
- Gwisgwch ddillad sy’n gorchuddio eich breichiau a’ch coesau. Mae menig yn ddefnyddiol i ddiogelu eich dwylo ac mae myffiau dros y cyrn (handlebars) yn gallu cadw eich dwylo’n gynnes mewn tywydd oer er mwyn gallu rheoli’r ATV yn dda.
- Gwisgwch esgidiau cadarn sy’n dod dros eich pigyrnau, e.e. bŵts neu esgidiau glaw sy’n gryf, yn cynnal eich troed ac sydd â gafael da pan fydd hi’n wlyb, a dillad llachar (maen nhw’n helpu i bobl ddod o hyd i chi o’r awyr os ydych chi’n cwympo i ffwrdd);
- Mae gofyn symud y corff dipyn wrth yrru ATV felly gwnewch ychydig o ymarferion ymestyn i’ch cynhesu fel nad ydych chi’n rhoi straen ar y cyhyrau;
- Gwisgwch fisor neu gogls i amddiffyn eich llygaid rhag pryfed a changhennau a gwisgwch helmed bob amser.
Crynodeb
- Stopio’n Saff - Brêc llaw ymlaen, rhowch bopeth yn niwtral, diffoddwch yr injan a thynnwch yr allweddi!
- Dylech chi wisgo helmed bob amser wrth yrru ATV.
- Cynlluniwch eich llwybr bob amser a gwiriwch pa mor gadarn yw’r tir.
- Un sedd = Un pen ôl. Does dim hawl gan deithwyr i deithio ar ATVs sy’n cael eu defnyddio fel cerbydau amaethyddol ysgafn.
- Gyrrwch ar gyflymder diogel bob amser a dewch i wybod beth yw eich terfynau chi.