Cael eich lladd gan anifail yw’r ail achos marwolaeth mwyaf cyffredin ar y fferm.
Collodd cyfanswm o 28 o bobl eu bywydau dros y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad i gael eu hanafu gan wartheg a theirw.
Mae risgiau bob amser wrth drin gwartheg a da byw: y risg o gael eich brifo’n gorfforol gan anifail sy’n ofnus neu sydd wedi cael ei ddychryn, a’r risg o gael eich brifo o ganlyniad i gyfleusterau trin sydd heb eu cynllunio’n dda, o ganlyniad i gamddefnyddio offer neu fethu cynnal a chadw offer.
Edrychwch ar y fideo a nodwch y pwyntiau allweddol.
Wrth drin gwartheg, mae risg bob amser o gael anaf wrth gael eich gwasgu, eich cicio, eich tolcio neu eich cornio.
Mae’r risg yn fwy os nad yw’r anifeiliaid wedi cael eu trin yn aml, fel rhai o’r bryniau neu’r corstir, anifeiliaid sugno neu wartheg sydd newydd fwrw llo.
Gall rhai mathau o waith gynyddu’r risg, e.e. gwaith milfeddygol.
Mae ceisio gwneud tasgau stoc ar wartheg sydd heb eu ffrwyno neu gydag offer ffwrdd â hi yn arbennig o beryglus.
Peidiwch byth â meddwl nad yw anifeiliaid yn beryglus, hyd yn oed gyda rhagofalon da.
Sicrhewch fod cyfleusterau trin da, gan gynnwys lloc a llwybr ffrwyno sydd wedi’u dylunio a’u cynnal a’u cadw’n dda, a gwasgfa sy’n gweithio’n dda. Dydy gatiau a rhwystrau dros dro ddim yn ddigon, a bydd hyn yn arwain at drin llai effeithiol yn ogystal â pherygl o niwed.

| Dylai anifeiliaid fod yn gallu mynd i mewn i’r llwybr ffrwyno yn hawdd, a dylai fod un pen fel twmffat/twndis. | Sicrhewch fod digon o le yn y lloc casglu iddyn nhw fwydo i mewn yn hawdd i’r twmffat/twndis. | Mae lloc casglu siâp cylch yn golygu bod gweithwyr yn gallu sefyll yn ddiogel y tu ôl i giât wrth iddyn nhw symud anifeiliaid i mewn i’r llwybr ffrwyno, a chadw’r anifeiliaid i symud. | Mae angen i anifeiliaid allu gweld yn eglur i’r wasgfa a thu hwnt, fel y byddan nhw’n fodlon symud ar hyd y llwybr ffrwyno. |
|---|---|---|---|
| Gall fod troeon yn y llwybr, ond ddylen nhw ddim bod yn rhai tyn. | Mae’n well gan anifeiliaid symud tuag at ardal olau yn hytrach nag i’r tywyllwch. | Dylai ymylon y llwybr ffrwyno fod yn ddigon uchel i atal yr anifeiliaid rhag neidio drostyn nhw; clymwch nhw’n dynn wrth y llawr ac wrth ei gilydd fel eu bod nhw mor gryf â phosibl. | Rhowch rywbeth dros ymylon y llwybr ffrwyno i helpu i gadw’r gwartheg i symud drwy leihau’r pethau a fydd yn denu eu sylw nhw fel cysgodion ac anifeiliaid eraill. |
| Daliwch yr anifail sy’n arwain yn y llwybr ffrwyno wrth iddo aros ei dro i fynd i mewn i’r wasgfa. | Mae drysau colfachog (hinged) neu ddrysau llithro yn addas, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu eu hagor a’u cau o ochr weithio’r llwybr ffrwyno. | Peidiwch byth â gweithio ar anifail yn y wasgfa gydag anifail heb ei glymu yn aros yn y llwybr ffrwyno y tu ôl iddo. |
Dylai gwasgfa eich galluogi i wneud y rhan fwyaf o dasgau syml. Dylai:
Dylai’r wasgfa:-
Mae damweiniau, rhai ohonyn nhw’n angheuol, yn digwydd bob blwyddyn oherwydd nad yw teirw’n cael eu trin â pharch. Cofiwch, mae’r un mor hawdd i’r tarw chwareus eich lladd chi â tharw blin neu grac. Sicrhewch eich bod chi’n gallu trin eich tarw’n ddiogel.



Gwyliwch y clip a llenwch restr wirio ar gyfer system ddelfrydol i drin gwartheg.
Lluniwch system ddelfrydol i drin anifeiliaid ar gyfer fferm o’ch dewis chi, naill ai gwartheg llaeth neu eidion.
Fel y gwelwch chi, mae anifeiliaid yn gallu bod yn beryglus. Os yw’r cyfleusterau trin cywir gennych chi, bydd hi’n fwy diogel i chi eu trin nhw.
Mae rhai egwyddorion allweddol wrth drin anifeiliaid. Mae hyn yn gallu newid, yn dibynnu ar adeg y flwyddyn a lle mae’r anifail arni, e.e. mae buwch yn gallu bod yn dawel tan iddi fwrw llo. Wedyn mae hi’n gallu mynd yn amddiffynnol iawn o’r llo ac ymosod ar y ffermwr.
Mae cyfleusterau trin da yn gallu atal anafiadau a marwolaeth.