Sesiwn 9: RIDDOR
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch chi’n gallu:
- Esbonio ystyr RIDDOR
- Disgrifio beth mae’n rhaid i chi ei adrodd yn gyfreithiol
- Disgrifio pa ddigwyddiadau nad oes rhaid i chi adrodd amdanyn nhw
- Rhestru beth sydd ei angen wrth adrodd
- Esbonio’r camau wrth adrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Ffeithiau
- O 1 Hydref 2013 daeth Rheoliadau diwygiedig Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR 2013) i rym.
- Mae RIDDOR yn rhoi dyletswyddau ar gyflogwyr, yr hunangyflogedig a’r bobl sy’n rheoli eiddo gwaith (y Person Cyfrifol) i adrodd am rai damweiniau difrifol yn y gweithle, am glefydau galwedigaethol ac am ddigwyddiadau peryglus penodol (damweiniau a oedd bron â digwydd).
Am beth mae angen adrodd?
- Marwolaethau - Rhaid adrodd am bob marwolaeth i weithwyr a’r rhai nad ydyn nhw’n weithwyr os ydyn nhw’n ganlyniad damwain sy’n gysylltiedig â’r gwaith, gan gynnwys gweithred o drais corfforol i weithiwr. Does dim angen adrodd am hunanladdiadau, gan nad yw’r farwolaeth yn ganlyniad damwain sy’n gysylltiedig â’r gwaith.
- Clefydau galwedigaethol adroddadwy (reportable) - Rhaid i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig adrodd am ddiagnosis o rai clefydau galwedigaethol penodol, lle mae’r rhain yn debygol o fod wedi cael eu hachosi neu eu gwaethygu gan eu gwaith.
- Digwyddiadau peryglus adroddadwy
- Digwyddiadau nwy adroddadwy
Cofnodi Digwyddiad
Mae cofnodion digwyddiadau sy’n dod o dan RIDDOR yn bwysig hefyd. Maen nhw’n sicrhau eich bod chi’n casglu digon o wybodaeth fel y gallwch chi reoli’r risgiau iechyd a diogelwch yn iawn. Mae’r wybodaeth hon yn adnodd rheoli gwerthfawr sy’n gallu cael ei ddefnyddio i’ch helpu i asesu risgiau, ac i ddatblygu atebion i risgiau posibl. Fel hyn, mae cofnodion hefyd yn helpu i atal anafiadau ac afiechyd, ac yn rheoli costau colledion drwy ddamweiniau.
Llyfrau Damweiniau
Cliciwch isod i weld enghraifft o ffurflen cofnodi damweiniau.
Lawrlwytho
Tasg unigol ac adborth
Allwch chi wneud rhestr o bob digwyddiad adroddadwy RIDDOR rydych chi wedi clywed amdanyn nhw neu wedi bod yn rhan ohonyn nhw?
Rhowch adborth i’ch grŵp a gwnewch restr o’r pryderon mwyaf cyson a fyddai’n cael eu rhoi mewn llyfr damweiniau.
Cwis gwirio’r dysgu:
- Am beth mae RIDDOR yn sefyll?
- Rhestrwch y pethau y mae angen adrodd amdanyn nhw o dan RIDDOR.
- Cyn pen sawl diwrnod mae angen i chi adrodd am ddigwyddiad?
- Os oes damwain yn digwydd, ble a sut dylech chi gadw cofnod o’r ddamwain?
- Beth yw’r mathau mwyaf cyffredin o ddamweiniau?
Crynodeb
Mae amaethu’n broffesiwn peryglus. Mae risgiau’n gysylltiedig â gweithio â chreaduriaid a pheiriannau.
Mae dyletswydd ar ffermydd i leihau’r risgiau i gyflogwyr a gweithwyr.
Fodd bynnag, mae damweiniau’n digwydd ac mae angen adrodd amdanyn nhw i’r HSE, a rhoi strategaethau yn eu lle i atal hyn rhag digwydd eto.