Mae codi a chario’n achosi dros draean o’r holl anafiadau yn y gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys anhwylderau cyhyrysgerbydol (musculoskeletal disorders) fel poen ac anafiadau i’r breichiau, i’r coesau ac i’r cymalau, ac anafiadau straen ailadroddus (repetitive strain) amrywiol.
Mae codi a chario’n cynnwys codi, cario, rhoi i lawr, gwthio, tynnu, symud neu gynnal llwyth â llaw neu gan ddefnyddio grym corfforol arall. Nid pwysau’r llwyth yn unig sy’n gallu achosi anaf: mae’r rhain i gyd yn chwarae rhan: maint y llwyth, y siâp, faint o afael sydd, y ffordd rydych chi’n cario’r llwyth, i ble mae’n rhaid i chi ei gario, a pha mor aml mae’n rhaid i chi wneud y dasg.
Canllawiau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Y Gyfraith: Codi a chario – Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
Mae Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992 yn rhoi hierarchaeth eglur o fesurau er mwyn delio â’r risg sy’n debygol o achosi niwed o godi a chario.
Y rhain yw:
• osgoi gweithrediadau codi a chario peryglus cyn belled ag y mae’n ymarferol bosibl;
• asesu unrhyw weithrediadau codi a chario sy’n amhosibl eu hosgoi;
• lleihau’r perygl o anaf i fod mor isel ag y mae’n ymarferol bosibl.
Ystyriwch a oes rhaid i chi godi a chario’r llwyth eich hun o gwbl. Os yw’n bosibl, ceisiwch gael gwared yn llwyr ar y codi a’r cario rydych chi’n ei wneud, er enghraifft:
Os nad ydych chi’n gallu osgoi codi a chario, edrychwch ar y risgiau o’ch gweithdrefnau codi a chario. Does dim rhaid i chi edrych ar bob tasg yn fanwl.
Os na allwch chi gael gwared ar y risg yn llwyr, edrychwch ar sut gallwch ei leihau i lefel dderbyniol, er enghraifft:
Fel gwelsoch chi, mae’r Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992 yn berthnasol i amrywiaeth eang o weithgareddau codi a chario, gan gynnwys codi, gostwng, gwthio, tynnu neu gario.
Gall y llwyth fod yn fyw, fel person neu anifail, neu’n ddifywyd, fel blwch neu droli.
Dyletswydd y cyflogwr yw nodi’r risgiau’n gywir a rhoi gwybod i’r staff. Hefyd bydd angen i’r cyflogwr ddarparu offer lle mae angen, i godi pethau trwm. Dylai’r gweithiwr ddilyn canllawiau codi diogel a hefyd dylai ddefnyddio offer yn gywir.